MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL ATODOL (MEMORANDWM RHIF 2)

Y BIL IECHYD A GOFAL

1.                   Gosodir y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn o dan Reol Sefydlog (“RhS”) 29.2. Mae Rheol Sefydlog 29 yn pennu bod yn rhaid gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac y ceir cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gerbron Senedd Cymru os yw Bil gan Senedd y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at bwrpas sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru neu sy’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.

2.                   Cyflwynwyd y Bil Iechyd a Gofal ("y Bil") yn Nhŷ'r Cyffredin ar 6 Gorffennaf 2021. Ar 18 Tachwedd, cyflwynodd Llywodraeth y DU 54 o welliannau i'w hystyried yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin ac mae 24 o'r gwelliannau hyn yn gwneud darpariaeth sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cytunwyd ar bob un o'r gwelliannau hyn ar 23 Tachwedd ac maent yn rhan o'r Bil y dechreuwyd ei ystyried yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 24 Tachwedd. Mae’r Bil fel y’i diwygiwyd ar gael yma: https://bills.parliament.uk/publications/44008/documents/1051

3.                   Nid oedd yn bosibl gosod y Memorandwm hwn o fewn y pythefnos arferol a ragnodir yn Rheol Sefydlog 29, oherwydd cymhlethdod y gwelliannau a gyflwynwyd a'r trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth y DU ar faterion a oedd heb eu datrys yr oeddwn wedi gobeithio y byddent yn cael eu datrys a'u cynnwys yn gadarnhaol yn y Memorandwm hwn. Mae'r Memorandwm hwn wedi'i osod cyn gynted â phosibl ar ôl cyflwyno'r gwelliannau hyn gan ganiatáu ar gyfer dadansoddi eu heffaith. Fodd bynnag, erys rhai materion heb eu datrys sy'n dal i fod yn destun trafodaethau gyda Llywodraeth y DU.

Amcan(ion) Polisi

4.                   Amcan datganedig Llywodraeth y DU yw deddfu polisïau a nodir yn argymhellion y GIG ar gyfer diwygio deddfwriaethol, gan ddilyn Cynllun Hirdymor y GIG, a'r Papur Gwyn ar gyfer Integreiddio ac Arloesi: cydweithio i wella iechyd a gofal cymdeithasol i bawb. Dywed Llywodraeth y DU fod y Bil yn adeiladu ar gynigion y GIG ei hun ar gyfer diwygio, gyda'r nod o'i wneud yn llai biwrocrataidd, yn fwy atebol, ac yn fwy integredig, gan ymgorffori gwersi a ddysgwyd o'r pandemig.

Crynodeb o’r Bil

5.                   Noddir y Bil gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

6.                   Mae prif ddarpariaethau’r Bil yn ymdrin â nifer o feysydd, a nodir yn gryno isod.

a)    Mynd i'r afael â phryderon a godwyd gan GIG Lloegr, megis sefydlu Systemau Gofal Integredig (ICS) presennol ar sail statudol, gan uno NHS England ac NHS Improvement yn ffurfiol, a gwneud newidiadau i reolau caffael a chystadleuaeth sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys cynigion i roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyfarwyddo NHS England a phenderfynu sut y trefnir rhai gwasanaethau iechyd eraill. Mae'n rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol drosglwyddo swyddogaethau rhwng rhai o'r 'Cyrff Hyd Braich' sy'n arwain, yn cefnogi ac yn rheoleiddio gwasanaethau gofal iechyd yn Lloegr a phwerau i ddirprwyo swyddogaethau eraill yr Ysgrifennydd Gwladol i'r cyrff hynny mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, a hefyd i ymyrryd mewn newidiadau arfaethedig i'r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu darparu.

b)    Nid yw'r Bil yn ymdrin â diwygiadau ehangach i'r systemau gofal cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd, er ei fod yn darparu ar gyfer rhai newidiadau yn y meysydd hyn; Bwriedir i Systemau Gofal Integredig wella cydgysylltu rhwng y GIG a gwasanaethau awdurdodau lleol. Ar gyfer gofal cymdeithasol, mae'r Bil yn galluogi i'r Comisiwn Ansawdd Gofal asesu sut y mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn cyflawni eu swyddogaethau gofal cymdeithasol i oedolion a'i nod yw gwella'r broses o rannu data. Mae mesurau hefyd yn bodoli i symleiddio'r ffordd y mae pobl ag anghenion gofal parhaus yn cael eu rhyddhau o ysbytai.

c)       Mae mesurau iechyd y cyhoedd yn y Bil yn ymwneud â hysbysebu bwyd, gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr a fflworideiddio dŵr.

d)      Mae'r Bil hefyd yn mynd i'r afael ag ymchwiliadau diogelwch ac yn sefydlu Corff Ymchwiliadau Diogelwch y Gwasanaethau Iechyd fel corff statudol, ac yn gwneud newidiadau i'r system archwilwyr meddygol.

e)      Ymhlith y materion eraill a gwmpesir gan y Bil mae rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, casglu a rhannu data (gan gynnwys mesurau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cofrestrfeydd meddyginiaethau newydd), gofal iechyd rhyngwladol, a safonau bwyd mewn ysbytai.

Diweddariad ar y sefyllfa ers cyhoeddi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf

7.                   Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil ar 1 Medi, yn seiliedig ar y fersiwn o'r Bil a gyflwynwyd i Senedd y DU ar 6 Gorffennaf.

8.                   Nododd y Memorandwm, oherwydd bod nifer o gymalau’r Bil yn peri pryder i Lywodraeth Cymru, er gwaethaf rhinweddau rhai o'r cymalau, fod safbwynt terfynol Gweinidogion Cymru ar allu argymell cydsyniad yn ddarostyngedig i ganlyniad trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth y DU ynghylch diwygio'r Bil.

9.                   Ers cyhoeddi'r Memorandwm cyntaf, rydym wedi sicrhau gwelliannau gan Lywodraeth y DU sy'n mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'n pryderon.

10.               Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi diwygio rhannau eraill o'r Bil ar ein cais, er mwyn newid darpariaethau presennol y Bil ar ran Cymru neu ymestyn darpariaethau newydd i Gymru. Nodir y rhain ym mharagraffau 36-54 isod.

11.               Cytunwyd ar y gwelliannau hyn yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin ar 23 Tachwedd 2021.

12.               Dylai’r Senedd nodi’r canlynol:

Cymalau 88-94 (Cymalau 86-92 gynt): Trosglwyddo Swyddogaethau Cyrff Hyd Braich

13.               Yn dilyn trafodaethau adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru ac Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU cytunodd Llywodraeth y DU ar welliannau a oedd yn mynd i'r afael â'm holl feysydd pryder ac yr oeddwn yn gwbl gefnogol iddynt. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd gwelliant i'r ddarpariaeth hon i'w ystyried yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin ynghyd â'r gwelliannau eraill a gyflwynwyd, oherwydd er bod Llywodraeth y DU a phob un o'r tair Llywodraeth Ddatganoledig wedi cytuno ar rai agweddau ar y gwelliant, nid oedd Llywodraeth y DU yn gallu sicrhau cytundeb gan yr holl Lywodraethau Datganoledig i welliannau arfaethedig pellach i’r darpariaethau.

14.               Mae trafodaethau gydag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU ar y mater hwn yn parhau i geisio sicrhau y cyrhaeddir sefyllfa sy’n dderbyniol i Gymru.

15.               Hyd nes y caiff y trafodaethau hyn eu datrys, ni allaf gefnogi cynnwys y cymalau hyn yn y Bil.

Cymalau 149, 144 a 91 (cymalau 89, 125 a 130 gynt): Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddfwriaeth y Senedd

16.               Fel y nodir yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf, mae'r cymalau hyn yn rhoi'r pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth sy'n ganlyniadol i'r Bil. Gall hyn gynnwys darpariaeth sy'n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu'n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan Ddeddf neu Fesur gan Senedd Cymru.

17.               Yr wyf fi a'm swyddogion wedi cyfarfod â'r Gweinidog Argar a'i swyddogion ar sawl achlysur i drafod y darpariaethau hyn. Mae Llywodraeth y DU o'r farn mai cymalau safonol yw'r rhain a'n bod ni yn yr un modd yn defnyddio pwerau yn Neddfau'r Senedd i wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU.

18.               Mae swyddogion Llywodraeth y DU wedi darparu enghreifftiau o sut y gellir defnyddio'r pwerau hyn – byddai'r diwygiadau'n debygol o fod yn rhai mân iawn, er enghraifft newid enw sefydliad yn Lloegr y cyfeirir ato yn neddfwriaeth Senedd Cymru lle mae swyddogaethau wedi'u trosglwyddo. Mae'r Gweinidog Argar hefyd wedi ymrwymo'n ysgrifenedig i wneud datganiad Blwch Dogfennau mewn perthynas â Chymal 149, sef y prif ddarpariaeth sy'n peri pryder yn hyn o beth, ar sut y gellid defnyddio'r pwerau hyn.

19.               Nid yw'r Gweinidog Argar wedi gwneud datganiad y Blwch Dogfennau eto.

20.               Unwaith y bydd y datganiad hwnnw wedi'i wneud, byddaf yn penderfynu a yw'r risg a gyflwynir gan y darpariaethau yn dderbyniol o ystyried yr holl sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU.

Newidiadau i'r Bil ers cyhoeddi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf y mae angen cydsyniad ar eu cyfer

21.               Mae'r cymalau canlynol, sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru ac sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, wedi'u diwygio gan Lywodraeth y DU yn ystod Cyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin:

Cymal 87 (Cymal 85 gynt): Systemau gwybodaeth meddyginiaethau

22.               Mewn perthynas â defnyddio data'n amhriodol, mae gwelliant 116 yn cyfyngu ar gwmpas y dibenion y gellir gwneud rheoliadau systemau gwybodaeth am feddyginiaeth ar eu cyfer o dan gymal 87. Mae'r gwelliant yn darparu mai dim ond os oes cysylltiad â diogelwch penderfyniadau o'r fath sy'n ymwneud â meddyginiaethau dynol y gellir gwneud darpariaeth yn y rheoliadau at ddibenion sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau clinigol.

23.               Roedd gwelliant 118 yn ymdrin â phryderon Llywodraeth Cymru ynghylch argaeledd data i Weinidogion Cymru at ddibenion o fewn cymhwysedd datganoledig megis gwneud penderfyniadau clinigol, a phryderon pellach ynghylch gorgyffwrdd casglu data at ddibenion y Gofrestrfa â chasglu data presennol yng Nghymru. Roedd hefyd yn ymdrin â’r ymrwymiad i ymgynghori ar ddarpariaethau a wneir mewn rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau. Mae gwelliant 118 yn ei gwneud yn ofynnol i is- ddeddfwriaeth a wneir oddi tano ddarparu ar gyfer casglu gwybodaeth gan Weinidogion Cymru neu berson a ddynodir ganddynt megis Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig yn yr is- ddeddfwriaeth honno. Mae'r gwelliant yn sicrhau, lle y bo'n briodol, bod data ar gael i'w defnyddio gan Weinidogion Cymru.

24.               Yn olaf, yn ogystal â'r mesurau diogelu y cytunwyd arnynt ar wyneb y Bil fel y'i cyflwynwyd, mae gwelliannau 117 a 121 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgynghori â Gweinidogion Cymru ar unrhyw reoliadau neu gyfarwyddydau sy'n ymwneud â systemau gwybodaeth am feddyginiaethau sy'n ymwneud â Chymru.

25.               Gyda'i gilydd, rwy'n fodlon bod y gwelliannau a wnaed i'r darpariaethau hyn yn mynd i'r afael â phrif bryderon Llywodraeth Cymru ac o ganlyniad gallaf nawr gefnogi’r cymal hwn yn y Bil.

Cymal 136 (Atodlen 120 gynt): Trefniadau gofal iechyd rhyngwladol

26.               Roedd gennym ddau bryder ynglŷn â'r cymal hwn fel y'i cyflwynwyd.

27.               Yn gyntaf, y ddarpariaeth i alluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru a/neu i ddirprwyo swyddogaethau iddynt, wrth wneud rheoliadau i wneud darpariaeth at ddibenion rhoi effaith i gytundebau gofal iechyd.

28.               I ddatrys hyn, mae gwelliant 124 yn diwygio'r diffiniad o "awdurdod cyhoeddus perthnasol" y gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi neu ddirprwyo swyddogaethau iddo wrth wneud rheoliadau ynghylch cytundebau gofal iechyd rhyngwladol o dan Ddeddf Gofal Iechyd (Trefniadau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir) 2019 ("HEEASA"), drwy eithrio Gweinidogion Cymru ac awdurdodau datganoledig eraill yng Nghymru o'r diffiniad hwnnw. Mae gwelliannau 122 a 123 yn dod â Byrddau Iechyd Lleol Cymru o dan gwmpas pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau i sicrhau bod y swyddogaethau presennol sydd eisoes wedi'u rhoi iddo ynghylch ceisiadau gofal iechyd arfaethedig yn parhau.

29.               Ein hail bryder oedd y cynnig i ymgynghori yn unig â Gweinidogion Cymru ar y rheoliadau drafft sy'n cael effaith ar gytundebau gofal iechyd rhyngwladol, sy'n golygu, pe bai gan Lywodraeth Cymru bryderon ynghylch pwysau afresymol neu heb eu hariannu ar y GIG yng Nghymru sy'n deillio o gytundebau o'r fath, efallai na fyddai’r pryderon hynny bob amser yn cael eu hystyried.

30.               Bydd gwelliant 125 yn diwygio HEEASA i roi pwerau i Weinidogion Cymru i’w galluogi i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig er mwyn cael effaith ar gytundebau gofal iechyd rhyngwladol, sy'n cynnwys y pŵer i ddirprwyo swyddogaethau i bob awdurdod datganoledig yng Nghymru a/neu i roi swyddogaethau iddynt. Bydd y rheoliadau’n amodol ar y weithdrefn negyddol. Os bydd Gweinidogion Cymru yn methu ag arfer y pŵer hwn i roi swyddogaethau perthnasol i'r Byrddau Iechyd Lleol ynghylch cytundebau gofal iechyd, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol roi'r swyddogaethau hynny, fel y nodir yn y paragraff blaenorol. Rwyf o'r farn bod y gwelliant hwn yn mynd i'r afael â phryderon Llywodraeth Cymru am yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn deddfu mewn perthynas â meysydd datganoledig.

31.               Yr wyf yn ymwybodol nad yw gallu Gweinidogion Cymru i gael y pŵer i osod swyddogaeth gofal iechyd gyfatebol ar Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau datganoledig eraill yng Nghymru yn dileu'r gallu i Lywodraeth y DU ymrwymo i gytundebau gofal iechyd cyfatebol a allai arwain at bwysau ychwanegol ar GIG Cymru. Fodd bynnag, rwyf o'r farn bod y gwelliannau'n newid sylweddol o safbwynt y Bil fel y'i cyflwynwyd ac

ynghyd â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar ymgysylltu â'r Gweinyddiaethau Datganoledig wrth ddatblygu cytundebau gofal iechyd cyfatebol newydd a diwygiedig – y byddaf yn eu hanfon ymlaen at y Pwyllgor maes o law - yn diogelu'r setliad datganoli yn ddigonol.

32.               O ganlyniad, gallaf nawr gefnogi’r cymal hwn yn y Bil.

Cymal 142 (Cymal 123 gynt): Rheoleiddio gofal iechyd a phroffesiynau cysylltiedig

33.               Er bod rheoleiddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fater a gadwyd yn ôl, mae rheoleiddio personau nad ydynt yn weithwyr proffesiynol ond yn hytrach sy'n grwpiau o weithwyr sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu feddyliol unigolion yn dod o fewn cymhwysedd wedi ei ddatganoli. Byddai'r cymal fel y'i cyflwynwyd yn y Bil wedi ymestyn pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i reoleiddio'r grwpiau ychwanegol hyn o weithwyr.

34.               Mae gwelliant 127 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydsynio i Orchymyn yn y Cyngor a wnaed o dan adran 60 o Ddeddf Iechyd 1999 sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac sy'n cyflwyno i reoliad grŵp o weithwyr nad ydynt yn weithwyr proffesiynol, ond sy'n ymwneud ag iechyd corfforol neu feddyliol unigolion.

35.               Rwy’n fodlon bod y gwelliant hwn yn mynd i'r afael â phryderon Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r ddarpariaeth hon ac o ganlyniad gallaf nawr gefnogi’r cymal hwn yn y Bil.

Cymal 143: Archwilwyr Meddygol

36.               Mae gwelliant 128 yn diwygio Cymal 143 o'r Bil i fewnosod adran 18B newydd yn Neddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 yng Nghymru a Lloegr, sy'n gosod pŵer i gyrff GIG Cymru benodi archwilwyr meddygol. Bydd dyletswydd hefyd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod digon o archwilwyr meddygol yn cael eu penodi yn y system gofal iechyd yng Nghymru, bod digon o arian ac adnoddau ar gael i archwilwyr meddygol i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau craffu i nodi ac atal arferion gwael, ac i sicrhau bod eu perfformiad yn cael ei fonitro.

37.               Gwnaed y gwelliant hwn ar ein cais i alluogi penodi archwilwyr meddygol gan amrywiaeth o gyrff GIG Cymru yn hytrach na dim ond Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru (fel y nodir yn narpariaethau presennol Deddf 2009). Bydd hyn yn galluogi mwy o gydweithio ar draws cyrff GIG Cymru i sicrhau bod y cynllun archwilwyr meddygol yn cael ei gyflwyno'n effeithiol ac yn sicrhau bod darpariaethau'n cyd-fynd yn fras â'r sefyllfa yn Lloegr.

Er bod pwnc Rhan 1 o Ddeddf 2009, sef ble y caiff y ddarpariaeth hon ei mewnosod, yn cael ei chadw yn ôl gan baragraff 167 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae angen cydsyniad er hynny oherwydd bod y gwelliant yn gosod swyddogaeth a gadwyd yn ôl ar gyrff GIG Cymru ac yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru.

38.               Cefnogaf y gwelliant hwn gan ei fod wedi'i wneud ar ein cais.

Cymalau 122-125: Profion Gwyryfdod

39.               Mae profion gwyryfdod yn golygu archwilio genitalia menywod at y diben, neu'r diben honedig, o bennu gwyryfdod.

40.               Safbwynt Sefydliad Iechyd y Byd a Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr yw nad oes unrhyw sail wyddonol na chlinigol i brofion gwyryfdod, gan nad yw'n bosibl dweud a yw menyw wedi cael cyfathrach drwy'r math hwn o archwiliad. Nid yw'r weithdrefn yn cael ei chynnal ar y GIG gan nad yw'n cael ei chydnabod fel gweithdrefn feddygol. Mae'n ymddangos bod profion gwyryfdod yn cael eu cynnal yn bennaf mewn lleoliadau gofal iechyd preifat gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Fodd bynnag, gall hefyd ddigwydd mewn lleoliadau eraill fel y cartref, lle gall aelodau o'r teulu neu arweinwyr cymunedol gynnal y prawf.

41.               Mae gwelliannau 36-39 yn gwneud cynnal profion gwyryfdod, yn ogystal â chynnig cynnal profion gwyryfdod neu gynorthwyo neu annog person i gynnal profion gwyryfdod, yn drosedd. Y gosb am gyflawni’r drosedd yw:

·         ar gollfarn ddiannod, carcharu am gyfnod nad yw'n fwy na'r cyfnod diannod uchaf ar gyfer troseddau neillog, neu ddirwy (neu'r ddau);

·         ar gollfarnu ar gyhuddiad, carcharu am gyfnod nad yw'n hwy na phum mlynedd, neu ddirwy (neu'r ddau).

42.               Rydym wedi cytuno bod y ddarpariaeth hon yn ymestyn i Gymru, gan y byddai peidio â gwneud hynny yn golygu risg bod Cymru yn cael ei gadael ar ôl ar y mater pwysig hwn. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw a byddai hyn yn golygu bod gan fenywod a merched yng Nghymru lai o amddiffyniadau na'u cymheiriaid yn Lloegr.

43.               Mae’r gwelliannau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Diben sylfaenol y gwelliant yw diogelu ac amddiffyn iechyd a lles menywod a merched. Mae diogelu ac iechyd a lles yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

44.               Cefnogaf y gwelliant hwn gan ei fod wedi'i ymestyn i Gymru ar gais Llywodraeth Cymru.

Cymal 135: Ad-daliad i Fferyllfeydd Cymunedol

45.               Mae gwelliant NC62 yn diwygio adran 88 o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006, gan greu esemptiad lle nad oes angen ad-dalu contractwyr fferyllol am gynhyrchion meddyginiaethol a ddefnyddir ar gyfer brechlynnau ac imiwneiddio neu ar gyfer atal a thrin clefydau a allai droi’n bandemig, lle mae'r cynhyrchion hynny wedi'u caffael yn ganolog.

46.               Mae gwelliant 129 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddod â'r diwygiadau i adran 88 o Ddeddf 2006 i rym. Mae gwelliant 132 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dod â'r gwelliannau i rym. Nid yw offeryn statudol a wneir wrth arfer y pwerau hyn yn ddarostyngedig i unrhyw un o weithdrefnau'r Senedd.

47.               Yn ystod argyfwng iechyd (fel y pandemig byd-eang presennol), nid yw'r trefniadau cyflenwi ac ad-dalu presennol ar gyfer cynhyrchion penodol yn addas i'r diben. Nid oes ‘cystadleuaeth’ go iawn yn y gadwyn gyflenwi gan nad oes digon o gynnyrch ar gyfer galw byd-eang ac mae prisiau'n codi wrth i sefydliadau iechyd ledled y byd geisio cael gafael ar yr un cynnyrch. Er mwyn sicrhau parhad y cyflenwad sy'n diogelu stoc y DU a fwriedir ar gyfer cleifion yn y DU, gall y llywodraeth brynu rhywfaint o stoc yn ganolog. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae Llywodraeth Cymru am gael yr opsiwn i allu cyflenwi'r cynnyrch yn ‘uniongyrchol’ i fferyllfeydd, heb orfod gwerthu i'r gadwyn gyflenwi. Gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r gadwyn gyflenwi fferyllol arferol fel darparwr gwasanaeth logistaidd i ddarparu'r feddyginiaeth (byddai angen i Lywodraeth Cymru eu talu am y gwasanaeth hwn) ond byddai Llywodraeth Cymru yn cadw teitl y feddyginiaeth.

48.               Gall hyn olygu cyflenwi i fferyllfeydd yn rhad ac am ddim. O dan yr amgylchiadau hyn, nid yw Llywodraeth Cymru am orfod ad-dalu fferyllfeydd, neu fel arall mae'n rhaid i'r llywodraeth dalu ddwywaith am y cynnyrch - unwaith i'w brynu yn y lle cyntaf ac eto wrth ad-dalu'r fferyllfa.

49.               Nid ydym am werthu'r meddyginiaethau hyn a sicrhawyd yn ganolog fel pe bai'n wneuthurwr i'r gadwyn gyflenwi i'w werthu i fferyllfeydd yn y ffordd arferol, gan y byddai hyn yn arwain at y cyfle i gyfanwerthwyr, unwaith y byddant yn berchen ar y stoc, ei allforio neu ei werthu am bris llawer uwch nag a delir fel arfer.

50.               Mae gwelliant 129 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddod â'r diwygiadau i adran 88 i rym. Mae gwelliant 132 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dod â'r gwelliannau i rym. Nid yw offeryn statudol a wneir wrth arfer y pwerau hyn yn ddarostyngedig i unrhyw un o weithdrefnau'r Senedd.

51.               Rwyf wedi cytuno bod y gwelliannau hyn yn y Bil yn cael eu hymestyn i Gymru oherwydd, er bod y gwelliant yn ymwneud â deddfwriaeth Cymru, mae swyddogion o'r farn ei bod yn ddoeth ac yn amserol cytuno i Lywodraeth y DU wneud y gwelliannau hyn drwy'r Bil, o ystyried bod y Bil eisoes yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy'n ymwneud â meddyginiaethau a materion datganoledig, ac mae angen sicrhau nad yw deddfwriaeth Cymru yn atal y cyflenwad heb ad-daliad. Mae'r pwerau i gychwyn y darpariaethau sy'n gymwys yng Nghymru yn galluogi cychwyn y diwygiadau hyn yn unol â'n hamserlenni ein hunain.

52.               Mae’r gwelliannau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Er bod cynhyrchion meddyginiaethol, gan gynnwys gweithgynhyrchu, awdurdodiadau ar gyfer defnyddio a rheoleiddio prisiau yn cael eu cadw yn ôl o dan baragraff 147 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru, mae diben y diwygiadau arfaethedig yn ymwneud ag iechyd a thaliadau cydnabyddiaeth am wasanaethau fferyllol, y mae'r ddau ohonynt yn faterion sydd wedi’u datganoli.

53.               Cefnogaf y gwelliannau hyn gan eu bod wedi'u hymestyn i Gymru ar ein cais.

Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil fel y'i diwygiwyd

54.               Fel y nodwyd uchod, rydym wedi sicrhau cytundeb gyda Llywodraeth y DU ynghylch y rhan fwyaf o feysydd sy'n peri pryder. Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi diwygio'r Bil ar gais Llywodraeth Cymru i adlewyrchu'r sefyllfa yng Nghymru o ran Archwilwyr Meddygol, ac wedi ymestyn diwygiadau Llywodraeth y DU ynghylch Profion Gwyryfdod ac Ad- daliadau i Fferyllfeydd Cymunedol i Gymru. Rwyf yn cefnogi cydsyniad mewn perthynas â'r holl ddarpariaethau hyn.

55.               Fodd bynnag, ni chyflwynwyd y gwelliant y cytunwyd arno o ran Cyrff Hyd Braich ac, yn ogystal, nid yw'r Gweinidog Argar wedi gwneud datganiad Blwch Dogfennau hyd yma o ran pwerau i wneud diwygiadau canlyniadol.

56.               Hyd nes y caiff y materion uchod eu datrys, ni allaf argymell cydsyniad i'r holl gymalau yn y Bil sy'n ymwneud â meysydd o fewn cymhwysedd datganoledig fel y'i cyfansoddwyd ar hyn o bryd.

Goblygiadau ariannol

57.               Bu trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth y DU ynghylch costau, ac rwyf wedi cael rhywfaint o sicrwydd. Yn fras, mae'r Gweinidog Argar wedi cadarnhau y bydd Fformiwla Barnett yn berthnasol i gostau ychwanegol sy'n deillio o ddarpariaethau yn y Bil sy'n effeithio ar Gymru fel y nodir yn y Datganiad o Bolisi Ariannu.

58.               Mewn perthynas â gofal iechyd cyfatebol yn benodol, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn parhau i ariannu costau triniaethau a ddarperir dramor i drigolion Cymru o dan unrhyw gytundebau gofal iechyd newydd.

Casgliadau

59.               Croesawaf y gwelliannau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud i'r Bil i fynd i'r afael â'r rhan fwyaf o feysydd sy'n peri pryder i Lywodraeth Cymru a'r diwygiadau pellach a wnaed ar ein cais i adlewyrchu'r sefyllfa yng Nghymru o ran Archwilwyr Meddygol ac ymestyn gwelliannau Llywodraeth y DU ynghylch Profi Gwyryfdod ac Ad-dalu i Fferyllfeydd Cymunedol i Gymru.

60.               Fodd bynnag, hyd nes y caiff y pryderon ynghylch Cyrff Hyd Braich a'r pwerau i wneud diwygiadau canlyniadol eu datrys, ni allaf argymell cydsyniad i'r holl gymalau yn y Bil sy'n ymwneud â meysydd o fewn cymhwysedd datganoledig fel y'u drafftiwyd ar hyn o bryd. Byddaf yn nodi mwy o fanylion am sefyllfa Llywodraeth Cymru wrth i'r sefyllfa ddatblygu a bydd rhagor o wybodaeth ar gael.

61.               Bydd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol pellach yn cael ei gyflwyno os bydd angen.

Eluned Morgan AS

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 17 Rhagfyr 2021